Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 24 Mehefin 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 10.50 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar AC (Cadeirydd) William Graham AC Mike Hedges AC Alun Ffred Jones AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC Sandy Mewies AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Mike Usher, Swyddfa Archwilio Cymru Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Meriel Singleton (Ail Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Nodwyd y papurau.
3 Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol 2013-2014
3.1 Rhoddodd Mike Usher, Arweinydd y Sector ar gyfer Iechyd a Llywodraeth Ganolog yn Swyddfa Archwilio Cymru, sesiwn friffio ar yr adroddiad, a nodwyd gan yr Aelodau.
4 Gofal heb ei drefnu: Trafod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru
4.1 Nododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor ynghyd â'r cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
4.2 Cytunodd yr Aelodau y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn: Trafod yr adroddiad drafft
6.1 Trafododd yr Aelodau'r adroddiad drafft a nodwyd y byddai drafft diwygiedig ar gael i'w drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 15 Gorffennaf.
7 Adroddiad Blynyddol 2013-14
7.1 Trafododd yr Aelodau'r cynnwys ar gyfer yr adroddiad blynyddol a nodwyd y byddai'r clercod yn paratoi drafft i'w drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 15 Gorffennaf.
8 Cyflogau Uwch-reolwyr: Y prif faterion
8.1 Trafododd yr Aelodau'r papur a nodwyd y byddai'r clercod yn paratoi adroddiad drafft i'w drafod yn gynnar yn nhymor yr hydref.
8.2 Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i baratoi dogfen yn cymharu'r canllawiau cyflogau ar gyfer sefydliadau'r sector cyhoeddus.
9 Gohebiaeth y Pwyllgor - y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
9.1 Trafododd yr Aelodau'r ohebiaeth a chytunwyd i drafod cyfrifon blynyddol Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer 2013-14 yn nhymor yr hydref.